Lleoliad:
Ystafell Gyfarfod 4B, Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Ebrill 2025
Amser:
08.58 -
09.49
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan AS Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) (45 munud)
·
Datganiad gan y Prif Weinidog
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Rhaglen
Ddeddfwriaethol (60 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Strategaeth Bwyd Cymunedol (45 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Addysg
Bellach ac Uwch: Addysg Ryngwladol (45 munud)
- Gohiriwyd tan 3
Mehefin
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.
Mynegodd Heledd Fychan y farn y byddai dadl ar y Bil Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) wedi bod yn well na datganiad. Ymatebodd y Trefnydd fod datganiad llafar yn cael ei ystyried yn fwy priodol ar yr achlysur hwn.
Gofynnodd Heledd Fychan a fydd datganiad llafar yn cael ei gyflwyno i nodi deng mlynedd ers sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cadarnhaodd y Trefnydd y bydd datganiad llafar yn cael ei drefnu ym mis Mehefin.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
·
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 10 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i’w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher i newid aelodau’r grŵp Ceidwadol ar y pwyllgorau a ganlyn:
O dan eitem 6.1, trafododd y Pwyllgor Busnes swydd wag Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chytuno y dylid parhau i’w dyrannu i'r grŵp Ceidwadol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, gyda phleidlais gudd i'w chynnal yn ystod y cyfarfod os oes angen.
O ganlyniad, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mercher:
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.
Siambr Hywel
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes sicrhau bod Aelodau eu grwpiau wedi ymgyfarwyddo â'r canllawiau ar weithredu Cyfarfod Llawn a gynhelir yn Siambr Hywel, cyn y cyfarfod y prynhawn yma.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 6 Mai 2025
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant (45 munud)
Ar gais y Trefnydd, cytunodd y Rheolwyr Busnes i symud y Cwestiynau Llafar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg o 21 Mai i 4 Mehefin. O ganlyniad, bydd Cwestiynau Llafar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yn symud o 4 Mehefin i 21 Mai.
Cytunwyd i drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 21 Mai 2025 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2024 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer: Mick Antoniw AS (Pontypridd) (30 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) a chytunodd i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i ystyried yr egwyddorion cyffredinol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r cais y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi'i wneud i Lywodraeth Cymru, cyn ei ystyriaeth ei hun o'r amserlen ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Llywodraethu, Egwyddorion a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cadarnhaodd y Trefnydd y bydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ystyried y llythyr ac yn ymateb maes o law i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y goblygiadau sy'n deillio o atal Russell George dros dro o'r grŵp Ceidwadol a chytunodd:
Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y goblygiadau i gynrychiolaeth yr Aelodau hynny nad ydynt yn aelodau o grwpiau gwleidyddol ar y Pwyllgor Busnes, sydd bellach yn codi o dan Reol Sefydlog 11. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at y tri Aelod o dan sylw, er mwyn esbonio eu hawliau o dan Reol Sefydlog 11.3 ac y byddai'r Llywydd yn ystyried unrhyw farn a ddaw i law wrth benderfynu ar unrhyw ffordd o weithredu yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y bydd gofyn iddo ystyried gofynion y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â ffurfio grwpiau gwleidyddol a chynrychiolaeth ar y Pwyllgor Busnes, fel rhan o'i waith gweithdrefnol i adolygu'r trothwyon a gynhwysir yn y Rheolau Sefydlog yng ngoleuni Diwygio'r Senedd.
Trafododd y Pwyllgor Busnes opsiynau ar gyfer llenwi swyddi gwag cyd-gadeirydd ac aelodaeth ar Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.
Nododd Paul Davies fod safbwynt y grŵp Ceidwadol yn parhau i fod yn ddigyfnewid. Dywedodd Heledd Fychan fod grŵp Plaid Cymru o blaid model un Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor a dileu'r gofyniad iddo gael dau Gyd-gadeirydd.
Dywedodd y Trefnydd y byddai angen iddi roi ystyriaeth bellach i'r mater. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor Busnes yr argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ei adroddiad ar benodiadau cyhoeddus a chytunodd i ystyried ei ymateb fel rhan o'i ystyriaeth a fydd yn cael ei chynnal o'i raglen waith weithdrefnol am y cyfnod sy'n weddill yn nhymor y Senedd bresennol.
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ei Raglen Waith Weithdrefnol a chytunodd i gyfarfod mewn cyfres o gyfarfodydd ychwanegol i ystyried materion gweithdrefnol, a bydd y cyntaf o'r cyfarfodydd ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu'r gwaith gweithdrefnol i'w gyflwyno yn yr amser sy'n weddill yn nhymor y Senedd hon.
Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno amserlen arfaethedig ar gyfer y cyfarfodydd ychwanegol.